Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â phrif gorau Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin. Bu rhai ohonom, ar ôl hyn, yn canu alto yn ei gôr.

Daeth bendith addysgol fawr i ni'r plant gyda'r Ysgol Frytanaidd (British School), a dyfodiad Mr. John Jones yn ysgolfeistr iddi. Er na "chodwyd" mohono'n ysgolfeistr, fe'i ganwyd yn un. Yr oedd ganddo ddawn neilltuol i ennill serch plant, i gyffroi eu diddordeb, a chyfrannu addysg iddynt, a gwyddai'n dda am berthynas y gwahanol amodau addysg hyn a'i gilydd. Nia oes gennyf gof am unrhyw boen na chas ynglŷn â'r gwersi, gan mor ddiddorol a swynol y gwneid hwy ganddo. Unai â ni yn aml yn ein chwaraeon. Er nad oedd gennym bêl droed, yr oedd gennym ddigonedd o fryndir a doldir, gelltydd ac afonydd, at ein gwasanaeth. Bob amser, pan gyfarfyddai'r" cŵn cadno" gerllaw, caem fore o wyliau, a'r unig atgof o siom chwerw sy'n aros gennyf o'r amser hwnnw yw y siom o weld y cŵn a'r cotiau cochion yn ein gadael ar ôl ar fanc Penalltgeri, a hwythau'n diflannu dros y gorwel i gyfeiriad y môr.

Heblaw yr ysgol ddydd, yr oedd ganddo ysgol nos rai gaeafau i bawb a ddelai iddi. Gan ei fod yn llenor a bardd da, byddai clywed rhai o'i gynhyrchion yn atyniad ychwanegol i'r ysgol hon. Heblaw hyn trefnodd gyfarfodydd llenyddol—cerddorol bob gaeaf, a oedd yn newyddbeth yn yr ardal, ac yn boblogaidd iawn. Deuai " Hughes Llechryd" a'i deulu cerddorol fel rheol i gymryd rhan ynddynt. Tua 1868, 'rwy'n cofio iddo ddysgu nifer o drioedd Cymraeg imi i'w hadrodd yn un o'r cyrddau, ac ychwanegu fel diweddglo un o'i waith ei hun—yr unig un sy'n aros ar fy nghof. "Tri pheth sy'n dda gan fy nghalon: fod