digon o fara a chaws gartref, fod British School yn y Drewen, a bod E. M. Richards wedi mynd i mewn i'r Parliament." Yr oedd yr olaf yn cwrdd ag archwaeth y cadeirydd, "Squire" Cilfallen, i'r dim, gan ei fod yn Rhyddfrydwr brwd.
Rhwng popeth, daeth ei ddyfodiad â thon newydd o fywyd i'r ardal, a bu ei ddylanwad ym myd diwylliant cyffredinol yn llawer mwy nag eiddo Selby Jones, y gweinidog, yn nhiriogaeth crefydd. Yr oedd i'r olaf glod ac edmygedd ymhlith y bobl fel pregethwr huawdl a chwmnïwr doniol.
Nid oedd dim eithriadol yn nodweddu crefydd yr ardal. Yr oedd y rhan fwyaf—ond nid pawb o lawer —yn aelodau crefyddol, yn glynu wrth yr hen athrawiaethau ac arferion y tadau, ac yn ceisio byw i fyny â gofynion moesoldeb cyffredin—dim mwy. O gymharu'r Drewen â'r Priordy (Caerfyrddin), y mae'n sicr gennyf fod effeithiau diwygiad 1859—60 wedi mynd heibio'n gyflymach na rhai diwygiad 1904—5. Nid oedd dim ohonynt yn aros erbyn 1870. i lygad bachgennyn— dim ond y sôn yn awr ac yn y man amdanynt i'r glust. Cofiaf gwyno wrth y Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, nad esgorodd y diwygiad ar unrhyw enghreifftiau o santeiddrwydd uchel ac amlwg. Ei ateb oedd fod y rhan fwyaf o flaenoriaid y Methodistiaid yn Sir Aberteifi wedi eu dwyn at Grist ganddo. Diau fod hynny'n wir, ac yn wir, efallai, hefyd am rai o ddiaconiaid y Drewen, er na allaf feddwl am un ohonynt yn gwerthu ei geffyl —fel Dafydd Jones, Poplar—a rhoddi'r arian, "bob dime goch," at achos Duw.
Fodd bynnag, cefais fy ngeni yn ail flwyddyn y diwygiad, a diau fod argraffiadau isymwybodol wedi