Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu gwneud arnaf ganddo, yn neilltuol gan i'm mam brofi yn helaeth o'i fendithion. Ynddi ac arni hi arhosodd yr effeithiau hyd y diwedd, a dug ei phlant i fyny "yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd," ac âi hi a'm chwaer a minnau (yr unig rai o'r teulu gartref) i'r cwrdd gweddi wythnosol—yn gystal â chyrddau'r Sul—yn ddiffael. Aeth o'r byd mewn math o ecstasi, yn union fel pe bai'r byd ysbrydol yn brysio i mewn i'w chorff i hawlio ei eiddo ei hunan. Yr oedd fy nhad yn gweithio yng ngweithfeydd dur Mynwy, ac yn fwy deallol ei ogwydd a'i ddiddordeb y pryd hwnnw, er iddo, gyda threigl y blynyddoedd, ddatblygu'n fwy defosiynol na'r cyffredin.

Nid yw'n bosibl olrhain effeithiau gwahanol weithredyddion ei gylchfyd bore ar y meddwl ieuanc; ond cyfnod o hyfrydwch pur, amgylchynedig gan gariad a gofal diorffwys, yw cyfnod bore oes yn fy nghof i, heb chwerwder na chas yn ei ddifwyno. Efallai, bid siŵr, fod yna rai profiadau anhyfryd wedi eu gwthio i lawr i'r anymwybod—islaw traidd y cof—ac mai'r rheiny yw gwir achos llawer gwendid ac amherffeithrwydd sydd yn fy mlino o hyd.