II
DAW profiad hynod a chwbl arbennig i'r neb a gais atgynhyrchu cyfnod yn ei fywyd sydd wedi hen basio: er i lawer o'r ffeithiau fod yn ei gof, y mae'r hen awyddfryd a'i deimladau wedi mynd, a medr edrych arno ei hun fel ar rywun arall, "myfi ac nid myfi." Ni threiais o'r blaen atgyfodi cyfnod o'm hanes mewnol o lwch y gorffennol, ond fel hyn y teimlaf yn awr mewn perthynas â'r chwe blynedd o frwdfrydedd barddol a'm meddiannodd rhwng pedair ar ddeg ac ugain oed.
Nid yw yn hynod yn y byd bod hogyn deuddeg oed yn ceisio efelychu'r emynau sydd wedi mynd yn rhan o'i ymwybod y mae ei duedd ddynwaredol yn arwain yn naturiol i hynny; ond y mae ei fod, yn ddiweddarach, yn cael ei feddiannu gan dwymyn awenyddol sy'n bychanu pob amcan ac ymgais arall yn ei olwg, yn sicr yn eithriadol. O leiaf, ymddangosai i mi felly mewn unrhyw hogyn ysgol y dyddiau hyn. Rhaid inni ragdybied rhyw gymaint o ddawn gynhenid i'w wneud yn bosibl, yn gystal â rhyw symbyliadau yn y cylchfyd i ddeffro'r ddawn. Ychydig, yn sicr, a gwan oedd yr olaf yn fy nghylchfyd i. Yn arbennig, nid oes gennyf unrhyw gof am ddechreuadau fy nghariad at gynghanedd. Rwy'n cofio fy hen athro yn yr Ysgol Sul, Deio Clinllwyd, yn adrodd rhai o linellau Goronwy Owen un prynhawn Sul i ni hogiau difeddwl: