Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyfyd fal yd o fol âr
Gnwd tew eginad daear,—
A'r môr a yrr o'r meirwon
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don;

a theimlo bod rhyw nerth dieithr ynddynt, ond yn sicr heb wybod dim am gynghanedd y pryd hwnnw. Nid yw o bwys ceisio olrhain y dechreuadau. Yn ddiweddarach, daeth help o amryw gyfeiriadau. Yr oedd gan Gwynionydd—a oedd yn giwrad yng Nghenarth—fab o'r enw Tegid yn Ysgol Ramadeg Emlyn, yr hwn a ddôi â gweithiau y prifeirdd yn fenthyg i mi oddi wrth ei dad, ac yn eu plith gramadeg Siôn Rhydderch. Ef fu fy athro cyntaf yng nghywreinion a mathau gwahanol cynghanedd. Athro digon trwsgl: y mae argraff ei englynion trystfawr yn fy nghof fel sŵn rhugliadau troliau trwm, o'u cymharu â symudiad modurol esmwyth cynghanedd ddiweddarach.

Hynotach na dim oedd imi rywsut ddyfod i gyswllt â dau hogyn arall, Howel Lewis[1] ac Ebenezer Jones,[2] yn yr ysgol ramadeg, a oedd hefyd yn barddoni, a ffurfio math o driwyriaeth (triumvirate) barddoli ddewis testunau i ganu arnynt ac eilwaith i fod yn fwrdd beirniadol. Ni pharhaodd y trefniant hwn yn hir, gan eu bod hwy yn rhy brysur gyda'r gwaith o baratoi ar gyfer arholiad Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Gofynnodd Mr. Selby Jones i minnau fynd yn bregethwr, ond ni fynnwn, gan nad oedd gennyf ddiddordeb mewn dim ond barddoni. Hyn hefyd a fynnodd benderfynu beth i'w wneud i ennill bywoliaeth. Gofynnais i'm mam geisio gan fy mrawd Emlyn, fel dyn busnes, sicrhau lle i mi mewn banc,

  1. Elfed.
  2. Dr. Griffith Jones.