Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er mwyn i mi gael digon o hamdden i farddoni. Ni ddaeth dim o hyn, ac felly dewisais fynd yn saer, fel eraill o'r teulu. Treuliais dair blynedd ar fy mhrentisiaeth, ond treuliais nid yn unig fy oriau hamdden, ond hefyd lawer o'm horiau gwaith—wrth weithio —i saernïo englynion a phenillion.

Yr oeddwn yn cystadlu'n gyson, a rhywbeth yn y gwŷdd yn barhaus: yn ennill yn aml, a cholli'n amlach, yn neilltuol ar y cyntaf. Gan fy mod yn beiddio cystadlu ar destunau fel Y Ddaear, Goleuni, Anfarwoldeb, Gwirionedd, etc., yr oedd yn ofynnol i mi ddarllen llawer ar seryddiaeth, daeareg, etc., ac erthyglau yn Y Gwyddoniadur a llyfrau eraill a oedd yn llyfrgell fy nhad. Wrth edrych yn ôl, 'rwy'n gweld i'r tair blynedd hyn fod yn rhai o dyfiant a disgyblaeth yn feddyliol a moesol yn fy hanes. Gan fy mod i fod yn y gweithdy am chwech o'r gloch y bore, haf a gaeaf, wedi cerdded dros filltir o ffordd, nid oedd cyfle i ddiogi. Buasent yn flynyddoedd caled i hogyn oni bai fod ei ddiddordeb mewn rhyw destun neu'i gilydd yn ysgafnhau'r baich, yn byrhau'r ffordd i'r dref yn gystal ag oriau gwaith wedi cyrraedd. Fel hyn ieuid disgyblaeth a diddordeb ynddynt, a chedwid y meddwl ieuanc rhag llawer o demtasiynau y meddwl a'r corff segur.

Ond beth am yr ymchwil am y prydferth? Nid oes eisiau dweud mai syniad haniaethol (abstract) yw "y prydferth" fel y sonnir amdano gan ysgrifenwyr athronyddol, ac mai peth prydferth, neu berson prydferth, a gais yr enaid. Dyna fy hanes innau. Ac er bod mwy o symbyliadau i ddatblygu'r ddawn gerddorol yn y teulu a'r ardal, ac i minnau ar y dechrau ymateb iddynt, diau mai'r gynneddf awenyddol oedd