iddo heddiw ei le fel protest yn erbyn y duedd i orwneud neu orliwio, ond nid yn erbyn y priodoldeb o ddisgrifio storm yn wahanol i awel. Yr unig egwyddor sicr yw "cydfyned ag Anian."
Nid wyf yn barnu i mi gynhyrchu un cyfanwaith prydferth yn ystod y blynyddoedd hyn, ag eithrio rhyw fan bethau, efallai: unoliaeth traethawd yn fwy nag unoliaeth artistig sy'n nodweddu yr awdlau ar "Y Goleuni" a'r "Ddaear" (yr olaf yn ddeunaw cant o linellau!). Y delfryd y dyddiau hynny oedd dyfod i fyny â'r farn "fod y bardd hwn wedi disgyn fel eryr ar ei ysglyfaeth a sugno ei holl waed ef."
Eto yr oedd ynddynt dameidiau digon prydferth. Cefais gryn foddhad yn ddiweddarach o ddarganfod fy mod wedi taro ar rai o gymariaethau y prifeirdd Saesneg flynyddoedd cyn eu darllen. Ni wyddwn, er enghraifft, fod Shelley yn cymharu "ieir bach yr haf" â "winged flowers" pan ddywedwn eu bod i'w gweld
Ddegau ar chwaraefa'r rhos
Fel adeiniog flodionos;
nac ychwaith fod Tennyson wrth ddisgrifio tanbeid— rwydd blodau eithin wedi canu
The furzy prickle fire the dells,
pan ddisgrifiwn i eithin glannau Teifi a Cheri'n gyffelyb
A thanio moelydd mae eithin melyn;
—yr hyn a ddengys y gall prentis rai prydiau gael yr un llygedyn o ysbrydoliaeth â meistr.