Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unrhyw gais oddi wrthyf, nac ymgynghoriad â mi, i ofyn i mi ddechrau pregethu. Ni wyddwn y pryd hwnnw fod y saint yn pwysleisio bod i arweiniad dwyfol ochr wrthrychol a goddrychol (subjective), h.y., na ddylai neb, er enghraifft, fynd i bregethu oblegid teimlo tuedd i hynny, heb fod yr eglwys hefyd yn agor drws iddo. Y wedd oddrychol oedd wannaf ynofi—yr oedd braidd yn negyddol, gan mai y mwyaf allwn ddweud oedd nad oeddwn yn teimlo ar fy nghalon i barhau yn saer, a bod ynof edmygedd mawr o'r pulpud a chydymdeimlad gwir â chrefydd. Yr oeddwn yn hoff o wrando pregethau, a bûm lawer tro yn mynd gyda Howel Lewis o Ysgol Ramadeg Emlyn, fel gwrandawr i fwynhau'r bregeth, ac fel cyfaill i gynnal ei freichiau yn yr eglwysi cylchynol. Fodd bynnag, gan i'r drws gwrthrychol agor, euthum i mewn drwyddo. Ni wn a ddylai'r ffaith i gystadlu eisteddfodol syrthio ymaith fel hugan oddi amdanaf—heb unrhyw benderfyniad nac ymdrech ar fy rhan—fy nghadarnhau yn y gred i mi wneud yn iawn. Ond felly y bu, gydag un eithriad. Gan fod gennyf bythefnos wedi pasio i Goleg Caerfyrddin cyn ei bod yn amser danfon y cyfansoddiadau i mewn i Eisteddfod Genedlaethol Merthyr, ac arnaf innau eisiau pres, cyfansoddais gywydd ar Haearn," ac ennill hanner y wobr. Nid wyf yn cofio a ddechreuais yn Eden ai peidio, ond gorffennais yn hollol uniongred gyda'r milflwyddiant, pan fydd

Cloddiwr yn trin y cleddy'
I waedgochi'r lon fron fry;
A gloyw ffagl y wayw—ffon
Yn bladur i ladd blodion.