Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymddengys bod fy mhapurau yn arholiad y Coleg yn ddigon da yng ngolwg yr awdurdodau i'w cyfiawnhau i'm cymell i fynd i mewn am y "London Matric," ac addo rhyddid oddi wrth wersi cyffredin y Coleg os gwnawn hynny. Derbyniais y cynnig yn eiddgar, ac ymdeflais i'r gwaith o ddifri. Nid tasg fechan ydoedd i un a fu chwe blynedd yn barddoni wrth ei bleser. Yr oedd rhai testunau i'w meistroli o'r gwael od, megis Ffrangeg, Physics a Fferylliaeth—yr olaf heb help un experiment (fel y cefais allan), a'r testunau eraill oll, ag eithrio Groeg, heb nemor ddim o help athro. Ond llwyddais i basio yn y dosbarth cyntaf. Yna digwyddodd peth tra hynod. Yr oedd hysbyseb am Ysgoloriaeth Dr. Williams ar fur y tu mewn i'r Coleg. Gwelais ef ugeiniau o weithiau wrth fynd i mewn ac allan heb iddo wneuthur un argraff neilltuol arnaf, ond un dydd, wedi dychwelyd o'r Coleg, ar ganol fy nghinio, fflachiodd i'm meddwl y dylwn. gystadlu am yr ysgoloriaeth. Ni wyddwn ddim am bwysigrwydd strong impulse y saint, ond prin y gellais orffen fy nghinio cyn rhedeg i lawr am fanylion yr ysgoloriaeth. Wedi eu cael, gyrrais am y clasuron oedd i'w paratoi heb ymdroi, ynghŷd à llyfr ar Trigonometry a oedd yn destun newydd i mi. Gweithiais arnynt hwy yn bennaf yn ystod y tymor, er nad esgeuluswn wersi'r Coleg. Eisteddais yr arholiad yr hydref dilynol, ac enillais un o dair ysgoloriaeth.[1]

Yr oedd gadael Castellnewydd am y Coleg Presbyteraidd fel gwthio fy nghwch o Geri i Deifi, ond yr oedd gadael y Coleg Presbyteraidd am Brifysgol

  1. Rhoddwyd y lleill i Dr. J. H. Stowell, a fu farw'n ddiweddar, ac i Norman de Garis Davies, gwaith yr hwn ar Egyptology a gydnabuwyd yn ddiweddar gan Brifysgol Rhydychen.