Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Glasgow fel mynd o Afon Teifi i mewn i Fae Aberteifi —o ddosbarth o ddeg i ddosbarth o gannoedd, a sôn dim am y dosbarthau eraill a oedd yno. Heblaw hyn, yr oedd yr holl beirianwaith addysgol o draddodi darlithiau a chymryd nodiadau, yn hytrach na pharatoi adran o lawlyfr ac ateb cwestiynau yr athro arni, yn wahanol—yn brofiad newydd a disgyblaeth newydd. Deuai ysbrydoliaeth newydd hefyd o weithio dan wyr cyfarwydd (experts) cydnabyddedig drwy Ewrob, megis Caird, a Jebb, a'r Arglwydd Kelvin (er mai'r darlithwyr oedd yr athrawon gorau yn nhestun yr olaf.) Nid braint fechan, ychwaith, oedd dod i gyffyrddiad â myfyrwyr disglair a ddaeth yn enwog yn ôl llaw. Yr oedd David Smith (awdur The Days of His Flesh) yn gystal ysgolor mewn Groeg a Lladin ag oedd yn y Saesneg. Y mae gennyf anrheg o lyfr (Sartor Resartus) oddi wrtho, ac ar ei ddechrau, yn yr iaith Roeg, "Ducpwyd y llyfr hwn oddi arnafi, David Smith. Y lleidr yw E. K. Evans." Yr oeddwn yn meddwl—yn wir, yn sicr yn fy meddwl —hyd onid euthum i symud y llwch oddi arno'n ddiweddar, mai'r Dr. Griffith Jones a roddodd y llyfr i mi: tric o eiddo peirianwaith y cof, yn ddiau, yn cysylltu'r rhodd nid â'r rhoddwr, ond â'r hwn a'i dug gyntaf i'm sylw. Nid oeddwn yn yr un dosbarthau ag Alfred E. Garvie, ond bûm yn cynrychioli Prifysgol Glasgow gydag ef, yn erbyn y tair prifysgol arall, am Ysgoloriaeth Ferguson, yr hon sydd yn agored i'r pedair prifysgol. Un sydd wedi sgrifennu llyfrau mwy byw nag un o'r ddau yw Ernest F. Scott. Cofiaf gyfarfod ag ef ganol nos yn Crewe, ef yn dod o Rydychen a minnau o Gastellnewydd, i gystadlu am y George A. Clark Fellowship, ac yn byrhau'r ffordd