Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd yn gwrando darlithiau Luthardt ar Ddiwinyddiaeth, Roscher a Brentano ar Economeg, ac Elster ar Goethe. Ni allaf ddweud i mi dyfu dim yn ysbrydol (mewn un ystyr) yn yr Almaen. Arferwn fynychu yr eglwys fechan y bu Bach yn organydd ynddi fore'r Sul, gyda rhyw ddwsin eraill, ac am chwech o'r gloch wasanaeth Saesneg a gynhelid gan yr Americaniaid a oedd yno. Nid oedd gwasanaeth hwyrol yn yr eglwysi Almaenaidd hyd y gwelais i, ond digon o gyngherddau o bob math.