Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV

GAN mai fy amcan yn yr ysgrifau hyn yw disgrifio profiad ysbrydol hyd y gallaf, a bod i'r profiad hwnnw wahanol arweddau sydd yn rhedeg i'w gilydd, y mae'n amlwg nad trefn amser yn hollol fydd cu trefn. Yn y bennod ddiwethaf ar gwrs fy nisgyblaeth feddyliol, yr wyf wedi gorfod dod i mewn i amser y bennod hon, am fod y cwrs hwnnw'n parhau, er nad mwyach yn brif ddiddordeb.

Sylwyd eisoes bod dysgu iaith neu fathemateg a'r cyfryw destunau yn cynhyrchu profiad gwahanol o ran ei ansawdd i unrhyw beth y gellid ei alw yn ysbrydoliaeth; mwy cywir, efallai, fyddai dweud mai felly yr oedd gyda mi, am na feddwn y ddawn sydd yn amod ysbrydoliaeth ynddynt. Bid a fynno am hynny, dug yr amgylchiadau yr oeddwn ynddynt y math o bleser sydd i'w gael yn unig drwy ymroddi i feistroli pwnc drwy nerth ewyllys: yn ôl llaw, fe ddwg y feistrolaeth honno ei hun fath o ysbrydiaeth gyda hi. Y mae'n werth bod heb ddawn amlwg yn aml pan fo hynny'n amod hunan—reolaeth. Ni bu fy mlwyddyn gyntaf mewn Athroniaeth—yr ail yn y cwrs—un dim yn wahanol yn ansawdd ei disgyblaeth i flwyddyn gyntaf y cwrs mewn Groeg a Lladin a Mathemateg, am y rheswm na allodd yr athro Veitch ddeffro cymaint o ddawn athronyddu ag a feddwn i. Heblaw hyn, yr oedd fy niddordeb pennaf yn ystod y tymor hwn yng nghyfarfodydd Henry Drummond.