Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma'r pryd y profais gyntaf ddim tebyg i fywyd newydd yng Nghrist. Ar lefel moesoldeb cyffredin ac uniongrededd rhesymol y buaswn yn flaenorol. Yr oedd eisiau'r profiad hwn—ar yr hwn y caf sylwi eto yn gychwynfan y cyfnod athronyddol a ddilynodd; oblegid 'rwy'n cofio'n dda bod ei newydd—deb rhyfedd yn fy ngorfodi i geisio ei gysylltu â'r gweddill o'm profiad. Beth yw ystyr pethau ?" ("What is the meaning of things?") oedd y cwestiwn mawr. Dechreua athroniaeth, meddai'r hen athronydd, mewn syndod—syndod at fod yn ei holl agweddau, yn arwain at yr ymgais i gyfrif amdanynt a'u cyfundrefnu. Y profiad newydd o Grist a agorodd fy llygaid i weld a rhyfeddu—yn raddol i ryfeddu at bopeth, a gofyn gyda Carlyle, "Is there one thing more miraculous than another?"

Yng nghwrs fy mywyd yr wyf wedi dyfod i gyffyrddiad â chryn nifer o'm brodyr yn y weinidogaeth yn meddu ar reddf athronyddu, sydd yn teimlo'r angen am gysylltu Cristnogaeth â'r cyfan o bethau, ac yn holi am y llyfrau gorau ar y pwnc. Bûm i'n fwy ffodus na hwy am i mi gael help Edward Caird i ateb y prif gwestiwn uchod, a'r cwestiynau llai sydd o'i gylch. Ni allaf yn y fan hon roddi i'r darllenydd syniad digonol am athroniaeth Caird, ond gallaf nodi sut y bu o help i mi, a deffroi ynof ddiddordeb newydd yn y cyfan o fodolaeth.

Diddordeb ydoedd, ar y cyntaf, cofier, yn ystyr bywyd, ac nid mewn athroniaeth fel y cyfryw, ond i'r graddau y credwn ei bod yn taflu golau ar yr ystyr hwnnw. Wrth gwrs, yr oedd pleser hefyd mewn ymarfer dawn newydd yn llwyddiannus. Yn y fan hon, ni ddymunwn adael yr argraff ar feddwl neb bod