y porth yn eang na'r ffordd yn llydan. Ar y cyntaf, yr oedd, ys dywaid Plato, fel dod allan o ogof lle bu dyn yn gweld cysgodau pethau'n unig, i oleuni dydd, ac ymgyfaddasu i ofynion byd yr hanfodion. Ac yna, wrth fynd ymlaen, i ymgodymu â systemau Plato ac Aristotle, Kant, a Hegel, golygai lawer o ymdrech galed—rhy galed yn wir i'm cnawd i oni bai am yr ysbrydoliaeth a ddaeth i'm cynorthwyo.
Yr oedd dull Caird yn ei ddarlithiau wedi ei ddewis i helpu'r gwan. Ei safbwynt ef, fel y gwyddys, oedd yr un Hegelaidd, wedi ei newid a'i gymedroli lawer gan athrylith Caird ei hun. Ond arweiniai ni i fyny ato ar hyd llwybr datblygiad athroniaeth o'r oesau cynnar yng Ngroeg. Yr oedd y ffordd, felly, yn un gymharol rwydd i'w theithio gan y gwan a'r anghyfarwydd.
Yn ei lyfr bychan ar Hegel, gesyd Caird ei egwyddor ganol allan fel "marw i fyw "—egwyddor sydd i'w gweld yn weithgar mewn gwybodaeth a moesoldeb yn gystal ag mewn Cristnogaeth. Rhaid i'r gwyddonydd a gais ddod o hyd i wirionedd farw iddo ei hun a bodloni i roddi ei ddamcaniaethau ei hun i fyny pan fo ffeithiau'n gofyn hynny: heb hyn nid â byth i mewn i deml gwirionedd. Y mae moesoldeb, hefyd, yn golygu bod dyn yn gwneud ei nwydau a'i fuddiannau ei hunan yn iswasanaethgar i hawliau cymdeithas. Yr oedd dysg fel hon yn ateg ddeallol bwysig iawn i'r hyn a gawsom gan Drummond ar rannau o ddysgeidiaeth Crist, megis, "Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw, efe a erys yn unig, eithr os bydd efe marw efe a ddwg ffrwyth lawer"; ac yn arbennig ar bresendoldeb y Crist byw yn awr gyda'i eiddo—gwirionedd a ffurfiai ganolbwnc ei anerchiadau inni.