Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hudol, megis drwy len, ag ef, megis y'i gelwir gan Wordsworth:

I have felt
A presence that disturbs me with the joy
Of elevated thoughts.

Rai prydiau, fodd bynnag, fe wnâi rwyg yn llen ffenomenau Natur i ddadlennu'i ogoniant. Y mae bod y prydiau hynny yn glir yn fy nghof ar ôl yn agos i hanner can mlynedd, yn profi eu bod yn arbennig iawn yn gystal ag anaml. Cefais y profiad am y tro cyntaf un hwyrddydd wrth edrych ar lwyn rhosynnau gwyllt ar waelod Gallt-y-fedw. Euthum yno wedyn gan obeithio a dymuno gweld yr un gogoniant, ond yr oedd wedi ymado—er bod y llwyn a'i rosynnau yno o hyd, nid oedd y berth yn llosgi mwyach. Cefais y profiad wedyn yn yr ardd fechan wrth gefn tŷ fy mrawd Emlyn yn Henffordd, lle yr eisteddwn un hwyr yn darllen llyfr y Prifathro Caird ar Athroniaeth Crefydd. Yr oedd yno dair coeden gweddol dal, a chefais olwg ar ogoniant y Tragwyddol heibio iddynt—mwy na gogoniant machlud haul. Wedi gweld darn o ffordd yn ymyl fy nghartref yn yr un modd "dan ffurf y Tragwyddol" (sub specie aeternitatis), 'rwy'n cofio mynd at y Parch. Evan Phillips i ofyn ei farn, gan y gwyddwn ei fod yn weledydd ysbrydol. Nid wyf yn cofio i mi gael help ganddo mwy na galw i'm cof olygiad Kant am " bethau ynddynt eu hunain "-help gwerthfawr iawn o safbwynt Neo-Kantiaeth a ddeil mai pethau fel y maent yn bod i Dduw yw "pethau ynddynt eu hunain."

Hoffwn i'r darllenydd ddeall mai nid ysbeidiau o ysbrydoliaeth a ddaw i ddyn yn fwy neu lai cyson