Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Rwy'n ffansïo, pe bawn wedi dal ymlaen i farddoni, ac ymberffeithio yn y gallu i osod allan wawr a chysgod y teimladau swynol a chyfrin a ddeuai imi y cyfnod hwn, y gallaswn fod wedi ysgrifennu rhywbeth o werth. Eto, nid drwg gennyf na ddaeth yr hen nwyd yn ôl.