Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V

NID yw llwyddiant academig, mwy na llwyddiant bydol, yn ddangoseg o gynnydd ysbrydol-yn yr ystyr gyfyng i'r gair-a gall beidio â bod yn ddangoseg ohono yn yr ystyr eang, am nad yw arholiadau bob amser yn braw teg, annibynnol ar amgylchiadau digwyddiadol neu bersonol. Bûm i'n dra llwyddiannus gyda'm haroliadau athronyddol, am fod athroniaeth yn awr wedi mynd i'm gwaed, a'r prif arholwr yn gwerthfawrogi atebion a oedd â gwreiddyn y mater ynddynt, ac unrhyw awgrym o wreiddioldeb. Er nad oeddwn yn gwbl ddi-gryn wrth eistedd wrth y bwrdd, ar ôl ysbaid fer yr oeddwn fel rheol yn gallu setlo i lawr i ysgrifennu'n rhydd, mewn anghofrwydd o bopeth ond y testun. Nid mater o drosglwyddo i bapur bethau a oedd gennyf yn fy nghof ydoedd o gwbl, ond o'm mynegi fy hun mewn geiriau cymwys (ac y mae'n hynod mor gymwys y daw'r geiriau pan fo dyn " yn yr hwyl ").

Yr oedd blwyddyn fy nychweliad o Germani hefyd yn flwyddyn cystadleuaeth y "George A. Clark Fellowship" mewn Athroniaeth yn y brifysgol. Rhoddir hi bob pedair blynedd, ac y mae ei hennill yn uchafbwynt uchelgais athronyddion ieuainc. Mynnai fy nghyfeillion i mi gystadlu, ac nid yw ond iawn cyffesu nad oedd eisiau llawer o anogaeth arnaf. Wedi ei hennill, a'm gwahodd i fod yn gynorthwywr i Caird, yr oedd y demtasiwn i barhau yn llwybr dysg yn gryfach na'r alwad i'r gwaith mwy ; ac arhosais