chael fy rhyddhau o draddodi'r pedair darlith. Eto yr oeddynt yn fy meddwl, ac ni feddyliais lai na chael hamdden i'w hysgrifennu a'u cyhoeddi ym Mangor. Ond yn ofer, gan nad oedd gennyf adnoddau nerfol digonol i wneud mwy na llanw fy swydd fel athro yn y coleg. Y gwir yw, imi fod yn tynnu ar yr adnoddau hyn yn ddiorffwys am ddeng mlynedd, heb gymryd gwyliau yn yr ystyr gyffredin o gwbl. Nid oeddwn heb gymryd ymarferiad mewn cerdded, nofio, pysgota a seiclo yn rheolaidd, eithr heb ymddihatru o'm gwisgoedd gwaith meddyliol. Yn ddiweddarach darllenais yn llyfr Dr. Schofield, For Christian Workers, y dylai gweinidog, er enghraifft, roddi'r drydedd ran o bob dydd, y seithfed ran o bob wythnos, a'r ddeuddegfed ran o bob blwyddyn, i seibiant hollol mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Gwn fod rhai o'm cydathrawon yn mynd i ffwrdd i fynyddoedd y Swistir a mannau eraill, lle na allai papur newydd hyd yn oedd eu cyrraedd. Ond ni fûm i yn ddigon call i wneud hyn.
Heblaw hyn, yr oedd awyr Bangor y fwyaf relaxing a anedlais erioed. Ni fuaswn wedi gallu gwneud fy ngwaith fel athro hyd yn oed, oni bai fy mod yn mynd i Fethesda fel rheol bob wythnos, i ddringo'r mynyddoedd gydag Adams ac eraill, a dod yn ôl wedi fy adnewyddu. Wedi traddodi fy narlith (dwy deirgwaith yr wythnos) yn y bore, nid oeddwn yn dda i ddim ond i orffwys ar yr esmwythfainc a'm paratoi fy hun felly ar gyfer y ddarlith arall drannoeth.
Yr oedd y darlithiau hyn hefyd yn golygu mwy o waith i mi am eu bod â'u bwriad y pryd hwnnw i baratoi myfyrwyr ar gyfer arholiadau Prifysgol Llundain, ac fel y cyfryw yn fwy meddylegol na meta-