Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffysegol. Yr oedd yn angenrheidiol, felly, i ymgydnabod â'r llyfrau diweddaraf ar feddyleg; yn wir, nid oeddwn yn gyfarwydd iawn â'r llyfrau a oedd yn adnabyddus eisoes ar y testun, gan mai ychydig le a gaffai yn Glasgow. Ai yr angen am roddi cymaint o'm hamser i un testun yn llai a llai gyda threigl y blynyddoedd, a chawn innau gyfle i roddi rhan ohono i "Ffydd a Gwybodaeth," ond ni ddaeth i hyn yn ystod fy arhosiad ym Mangor.

Wrth edrych yn ôl ar y blynyddoedd hyn, ymddangosant i mi mor " ddrwg yr olwg, a chul o gigi ag oedd y blynyddoedd blaenorol yn Glasgow o" deg" a thew". Ac eto, nid oeddynt yn gwbl anffrwythlon. Efallai, hefyd, eu bod yr hyn oedd eisiau arnaf i ddarostwng y " tewdra " myfiol a ddaw gyda llwyddiant rhy gyson. Cefais gryn bleser wrth feistroli testun newydd, neu yn hytrach arweddau newydd arno, ac eilwaith wrth gyfrannu o'r hyn oedd gennyf i fyfyrwyr galluog a derbyngar. Nid wyf yn cofio i un ohonynt fethu yn ei arholiad. O leiaf, gwneuthum fy ngorau dan yr amgylchiadau. Ac ni ŵyr neb ond mi fy hun pa mor anffafriol oedd yr " amgylchiadau." Euthum i golli fy nghwsg, a cholli fy ynni. Ni fwynhawn y bywyd cyfoethog gynt. Yr oedd "llif athroniaeth" yn treio'n gyflym, a phan ddaeth storm o wyntoedd croes anghyffredin i guro ar fy nghwch bach, bu'n dda gennyf ddianc i " gilfach â glan iddi" yn y weinidogaeth.

Bu'r ddisgyblaeth yn werthfawr i mi fel gweinidog: deuthum i gyswllt â gwahanol fathau o gymeriadau —y gwleidydd, y cyfreithiwr, yr ysgolhaig. Gwelais y gwahaniaeth rhwng diwylliant y deall a diwylliant