Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI

(a)

GEILW Hegel grefydd yn diriogaeth fwyaf mewnol yr ysbryd. Gallasai ychwanegu crefydd wir, gan fod allanol a mewnol yn perthyn i grefydd ei hun. Yn y diriogaeth hon y bydd fy mhererindod i o hyn ymlaen, a'i hymgais i dorri drwy len yr allanol i'r mewnol. Gan nad ymdriniais â'm bywyd crefyddol yn uniongyrchol hyd yn hyn, gwell i mi yn y fan hon roi bras olwg arno hyd adeg fy sefydliad yn Hawen.

Fe ddaeth un llygedyn o'r mewnol i mi'n fore iawn, mewn sylweddoliad byw anghyffredin o wynfydedd y bugeiliaid ar y Mynyddoedd Hyfryd (Delectable Mountains) yn Nhaith y Pererin—llygedyn na buaswn yn cyfeirio ato oni bai iddo aros yn ei ddisgleirdeb am flynyddoedd maith, a bod ei ôl—lewych yn parhau o hyd. Ymddengys fel deffroad categori "Y Nefol ynof. Ag eithrio hyn, a rhyw deimlad o ddwyster neilltuol wrth ymaelodi yn y Drewen (er, yn sicr, na ddeallwn lawn ystyr yr hyn a wnawn), rhedeg ymlaen yn dawel ac undonog a wnâi fy mywyd crefyddol, ochr yn ochr â bywyd mwy mwyfus a brwdfrydig barddoni, hyd ugain oed. Ag eithrio fy mhregeth gyntaf oll, yr hon oedd yn dra sobr a "chynnil," "barddonol" i raddau gormodol oedd fy mhregethau cyntaf. Ar derfyn dwy flynedd yn y coleg, fodd bynnag, torrodd ton o frwdfrydedd moesol ar fy ysbryd; o ba le neu sut y daeth ni wn, ond parodd