Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr hyn a deimlai un anghyfarwydd gyntaf wedi mynd i mewn i un o gyrddau Drummond oedd, nid presenoldeb y cannoedd myfyrwyr a oedd yn bresennol, ond yr awyrgylch ddieithr, hyfryd-newydd, "gwbl arall" a barai inni weld y myfyrwyr a phawb mewn medium newydd. Yr oeddwn yn gyfarwydd ag awyrgylch wresog cyfarfodydd hwyliog Cymru, ac wedi teimlo dylanwad areithyddiaeth huawdl Herber, Ossian, ac eraill. a thywallt dagrau'n hidl wrth wrando ar ddisgrifiadau ac apeliadau Plenydd ; ond yr oedd awyrgylch cyfarfodydd Drummond yn rhywbeth digyffelyb, ac fel yn mynd â'r ysbryd allan o'r byd i'w gynefin. Geilw Finney yr awyrgylch a greir gan yr Ysbryd Glân yn awyrgylch toddawl melting atmosphere—disgrifiad cywir o safbwynt yr effeithiau a gynhyrchir, ac ochr wrthrychol yr ystad a ddisgrifiai'n tadau yn yr ymadrodd, "ystad dyner o feddwl" (a tender frame of mind).

Yr oedd awyrgylch cyrddau Drummond felly, ac yn gyfaddas iawn i'r geiriau o ras a gwirionedd a ddeuai dros ei wefusau ef. Rhoddodd inni y rhan fwyaf o'i anerchiadau cyhoeddedig yn y cyrddau hynny. Y maent yn hyfryd i'w darllen, ond nid mor hyfryd ag oeddynt i wrando arnynt, gan fod y bersonoliaeth hawddgar, heulog, ddidwyll, gyfeillgar a'u traddodai yn absennol, er bod peth o'r perarogl eto'n glynu wrthynt i'r rhai a'u clywodd. Hyd yn oed y pryd hwnnw yr oedd rhai o geidwaid yr athrawiaeth ymhlith y myfyrwyr—dan arweiniad highlander Calfinaidd ar ei ôl ; a bu yntau yn ddigon mawr i ddyfod i gyfarfod o'r myfyrwyr i ateb eu cwestiynau ac esbonio ei safle. Ar y diwedd cafodd amryw ohonom ein symbylu i ddwyn tystiolaeth i'r da mawr