Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhelyw o bregethwyr y ddinas. Dygent ni i berthynas ddeallol â Christ, ac yn y fath gyflwyniad ohono fe âi yn bwnc i'w ddirnad ac nid yn berson i ddod i berthynas o ffydd ag ef, fel yng nghyflwyniad Drummond.

Tebyg oedd pethau yng Nghymru pan awn yno ar fy ngwyliau, ac ym Mangor yn ddiweddarach. Ar waetha'r cwbl, ni phallodd fy niddordeb mewn llenyddiaeth grefyddol a diwinyddol. Yr oedd rhai llyfrau'n neilltuol, megis eiddo Horton, yn dod ag awyrgylch cyrddau Drummond, neu yn hytrach yr elfen bersonol brofiadol a oedd ynddynt, yn ôl. Ochr yn ochr â'm hastudiaeth athronyddol parheais i ddarllen llyfrau diwinyddol a phregethu pan ddoi'r alwad, fel nad oeddwn yn hollol amharod pan gychwynnais ar fy ngweinidogaeth yn Hawen a Bryngwenith.

(b)

Y mae Brynhawen, tŷ gweinidog Hawen a Bryngwenith, yn sefyll ar fan uchel, iach, ond unig. Nid oes dim ynddo yn atyniadol i un sydd â'i ddiddordeb mewn bywyd yn dibynnu ar amlder pobl. Eto, mentrodd merch ieuanc o ganol tref ddod i fyw ynddo gyda mi ; ac yn y man ffodd yr unigrwydd ymaith, a daeth y tŷ llwyd ac unig yn gartref annwyl a swynol. Yr oedd gardd wrth y tŷ a alwai sylw ati ei hun, ac yn fuan aeth hithau yn lle o ddiddordeb meddyliol yn gystal ag ymarferiad corfforol. Nid oedd wedi cael llawer o driniaeth ers blynyddoedd, ac atebodd yn galonnog i'r diwylliant newydd. Yr oedd pobl yr eglwysi hwythau agos yn un i wneuthur y cylchfyd tymhorol yn hyfryd, a rhai o'r cymdogion yn arbennig, yn rhyfeddol o garedig. Nid oedd y gwaith yn anghyson â'r gorffwystra nerfol y crefwn amdano;