ac ar ben dwy flynedd yr oedd fy ymarferiadau garddol, ynghŷd â'r teithiau ar draws gwlad, ac awyr iach y bryndir, a bwyd iach y wlad wedi adnewyddu fy nerth a dwyn fy nghwsg yn ôl i raddau helaeth.
Dyna'r ochr dymhorol, ac yr oedd hon yn bwysig i mi ar y pryd. Gyda golwg ar yr ochr grefyddol, cefais, fel y tybiwn, ganfyddiad meddyliol clir o natur gwaith yr eglwys, sef, nid gwneud ysgolheigion na diwinyddion, ond gwneud dynion. Un o'm testunau cyntaf oedd, "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef," a gellir edrych ar yr adnod hon fel yn taro nodyn fy ngweinidogaeth tra fûm yno. Dyna lle'r oeddwn i fy hunan, a dyna eu heisiau hwythau yn yr eglwysi, fel y gwelaf yn awr. Er bod fy mlaenoriaid wedi bod yn egluro'r delfryd Cristnogol iddynt gyda gallu ac ymroddiad mawr, y mae'n hynod mor annelwig ydoedd yn eu meddwl a'u bywyd. Y mae yr un o hyd, a'r un ym mhob man, ac yn debyg o barhau, ac am y rheswm hwn yn unig y gellir cyfiawnhau pregethu llawer o'n gweinidogion ifainc; gobeithio y derbyniant yr un golau ag a ddaeth i mi yn ddiweddarach.
Yn adeg y diwygiad y darganfûm i weithiau Dr. Bushnell a'i hanes, a chael allan fy mod yn pasio drwy argyfyngau tebyg i'r eiddo ef o ran ansawdd ac amser. Wedi dod allan i oleuni cyfiawnder y Deyrnas yn ddyn ieuanc, a gadael y gyfraith am bregethu, fe'i cadwyd ef i bregethu cyfiawnder am tuag ugain mlynedd, ac yna dihuno un bore a dweud wrth ei briod fod y goleuni wedi dod y buont yn disgwyl amdano fel gwylwyr am y bore. Nid oeddwn innau'n fodlon ar gyflwr crefyddol yr eglwysi nac ar fy nghyflwr fy hunan, ac am hynny'n ddisgwylgar ac ymchwil-