Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gar. Y mae yr argraff a wnaeth profiad un Sul arnaf yn dwyn hyn i'm cof yn glir iawn. Yr oeddwn wedi bod yn pregethu yn Llechryd, ac yn dychwelyd mewn cerbyd, heb neb gyda mi, gyda glan Teifi. Teimlwn yn flin a siomedig ar waith y dydd, er fy mod wedi treio cyflwyno'r gwirionedd fel yr ymddangosai i mi, a thaflwyd fi yn ôl arnaf fy hun i amau fy mherthynas â Duw. Yn union wedi gadael y pentref rwy'n cofio fy holi fy hun fel hyn: "Onid yw yn bosibl i mi gael sicrwydd o Dduw a'r byd ysbrydol, fel yr un sydd gennyf o'r byd hwn, o'r coed yma sydd ger fy mron yn awr ?" Ac ateb—fel athronydd—fel hyn: "Nac yw, y cwbl allaf wneud yn bresennol yw credu ynddynt, ac ymgyfaddasu iddynt fel ag i ffurfio cymeriad â'm galluoga i'w mwynhau wedi gadael y ddaear." Fe wêl y darllenydd fod y cwestiwn yn llawer gwell na'r ateb. Yr oeddwn am berthynas fwy uniongyrchol â Duw nag a feddwn, ac yn ateb fel athronydd agnosticaidd. Eithr nid i chwilio ateb i'r cwestiwn hwn yr euthum i Gaerfyrddin.

Wedi adnewyddu fy nerth i fesur dylaswn fod wedi setlo i lawr i ddechrau ysgrifennu'r llyfr a oedd o hyd yn fy meddwl, ond ni wneuthum. Gan fy mod yn arholwr mewn athroniaeth (am y radd o M.A.) yn Glasgow, parhawn mewn cyswllt â syniadau athronyddol. Ond aethai garddwriaeth â'm bryd, a thueddai i fynd â mwy na'i rhan o'm hamser. Paratown fy mhregethau, a darllenwn gryn lawer o lenyddiaeth grefyddol a diwinyddol, fel mater o bleser yn gystal ag o ddyletswydd, ac yna rhoddwn fy oriau hamdden i'r ardd a llenyddiaeth garddwriaeth. Fel hyn, pan basiodd y trydydd haf, a minnau heb roddi pin ar bapur, cefais ofn gwywdra meddyliol. Pan oeddwn