Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn athro ym Mangor, a threulio'r Sul—fel y gwnawn yn aml—ym Methesda, dygwyd fi i gyffyrddiad â hen frawd annwyl a bregethai weithiau ym Methesda yn y bore, yn unol â'r drefn yno o newid pulpudau, ac na wnâi ddirgelwch o'r ffaith (a oedd yn amlwg i bawb) nad oedd ganddo ddim i'w bregethu. Yr oedd wedi bod yn boblogaidd iawn, a chanddo barabl hylithr a dawnus, ac aeth i fyw ar hynny ac ar bregethau'r gorffennol, gyda'r canlyniad ei fod yn awr yn wyw ei feddwl; a pheth trist oedd ei weled a'i glywed yn treio codi hwyl a gweiddi " tali-ho " ar gefn rhyw stori. Cefais ofn gwywdra felly "cyn fy medd," ac yr oedd yn un o'm cymhellion i adael tawelwch y wlad am Gaerfyrddin. Fel mater o deimlad, nid oeddwn i na'r wraig am fynd. Yr oeddem yn eithaf hapus ym Mrynhawen. Nid oedd un atyniad i mi yn y Priordy y pryd hwnnw, ac nid euthum yno i bregethu gydag un breuddwyd am alwad. Yr oeddwn mor hoff o'm cartref fel y gwrthodwn fynd ymhell i bregethu, ac euthum i'r Priordy yn unig am ei fod yn weddol agos. Rhoddais bregeth ddirwestol gref y tro cyntaf, am y deallwn fod ei heisiau—ond nid i godi galwad! Ond pan ddaeth yr alwad, a gair cyfrinachol oddi wrth y Prifathro Walter Evans, y byddai eisiau fy help yn fuan yn y Coleg Presbyteraidd, gwelais fod cynhorthwy effeithiol yn cael ei gynnig imi i lorio bwgan y gwywdra meddyliol a ofnwn, ac y dylwn ei dderbyn. Ni chefais fy siomi yn effeithiolrwydd y cynhorthwy a gefais, pa un bynnag a oedd perygl o'r fath a ofnwn ai peidio. Credaf fod perygl, nid yn unig i mi, ond i bawb, i orffwys ar eu rhwyfau " yng nghanol y blynyddoedd."