Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII

TAFLAI'R diwygiad oedd ar y ffordd ei gysgod ar flynyddoedd cyntaf fy ngweinidogaeth yng Nghaerfyrddin mewn gweddigarwch dwysach a mwy cyffredinol. Yn 1902 cychwynnwyd cwrdd gweddi undebol gan bobl weddigar y gwahanol eglwysi dan nawdd y Pentecostal League—cymdeithas dan lywyddiaeth Mr. Reader Harris, Q.C., â'i bwriad i gael gan bobl weddigar yr holl eglwysi i uno mewn gweddi am dywalltiad o'r Ysbryd Glân. Yr oedd Mr. Harris ei hunan wedi bod yn un o brif gynorthwywyr Bradlaugh, ac wedi cael troedigaeth hynod, a hynod o lwyr. Torrodd ton o frwdfrydedd moesol hefyd ar gyngor yr eglwysi rhyddion a oedd newydd ei sylfaenu, a gwnaeth ymdrech lwyddiannus i godi safon y cyngor tref. Yn 1903 daeth Mri. David Thomas a Rhys Thomas, dau o gynorthwywyr Mr. Harris, i gynnal cenhadaeth, ac yntau ei hun cyn diwedd yr wythnos, a buont yn foddion i gyffroi bywyd crefyddol y dref i'w waelod—nad oedd yn ddwfn, yn ddiau. Pwysleisient gwbl ymgysegriad i Dduw, a rhoddent le llywodraethol i'r Ysbryd Glân—athrawiaeth ddieithr i ni y pryd hwnnw. Ymhen ychydig fisoedd ymddangosodd y gair Convention—y tro cyntaf i mi ei weld ar ein muriau, a'i amcan, meddid, i" ddyfnhau y bywyd ysbrydol," ac enwau Mrs. Penn-Lewis a'r Parch. R. B. Jones fel y prif siaradwyr. Cof gennyf i mi frysio i fyny o'r Coleg i'r oedfa foreol yn ysgoldy Heol Awst, a chlywed rhan helaeth o anerchiad Mr. Jones ar santeiddrwydd, mewn awyrgylch a ddaeth â chyrddau Drummond yn fyw i'm cof. Yn oedfa'r prynhawn, a anerchid gan Mrs. Penn-Lewis,