Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd godre Duw'n llenwi'r deml, a phan ofynnodd inni ar y diwedd i blygu'n pennau, ac i bawb a oedd yn derbyn Crist yn Arglwydd i ddweud, "Yes, Lord," ar ôl ymdrech galed cefais help i wneud—gydag ugeiniau eraill a ddaeth i brofiad newydd yno. Yr anhawster oedd i ddyn ei gasglu ei hunan o bob man i'r un pwynt o gwrdd â sialens Crist fel person i'r ewyllys—nid derbyn yr athrawiaeth amdano i'r deall. Am y rheswm hwn, y mae ysgoldy Heol Awst yn gysegredicach i mi nag i lawer o'r rhai a â yno'n awr. Gwir mai dim ond y lle sydd yno, ond

Mae Theomemphus eto yn cofio am y lle
'R anadlodd ar ei enaid dawelaf wynt y ne'.

Y cwbl a brofais ar y pryd oedd teimlad o ryddhad hyfryd, fel pe bai rhannau o'm natur yn syrthio yn ôl i'w lle, a sŵn cynghanedd newydd yn fy isymwybod. Ond dechrau'r fendith oedd hyn. Ar ôl diwrnod neu ddau, cododd dywediad o eiddo Reader Harris—dywediad na wnaeth argraff neilltuol arnaf ar y pryd —i'r wyneb, a hawlio fy sylw: "Conquer the devil where he has conquered you." Nid oes dim neilltuol yn y frawddeg, ond y mae'n ymarferol bwysig, ac yn ffurfio ochr ddynol ""Nenwedig dal fi lle'r wy'n wan." Wrth edrych o gylch, gwelais fod un peth o leiaf ag eisiau ei wella. Er fy mod wedi adfeddiannu fy nghwsg i raddau helaeth yn Hawen, hwn oedd fy man gwan i, neu o leiaf un ohonynt, ac wedi methu cysgu byddwn yn dod at y bwrdd brecwast yn anfoddog a drwg fy hwyl. Wel, euthum i'm myfyrgell un bore cyn brecwast, mynd fel mater o ewyllys, ac yn groes i'm teimlad, ac i weddi, gydag effeithiau hollol annisgwyliadwy. Hyd y cofiaf, y mwyaf a ddisgwyliwn