oedd rhyw help i orchfygu drwg dymer, neu i'w chadw rhag fy mlino; eithr yn lle hynny fe'm bedyddiwyd â ffrydiau o nerthoedd bywydol, rhinweddol, trawsffurfiol am tua hanner awr a wnaeth imi deimlo'n lân, ac iach, a hoenus hyd gyrrau fy mod. Ac nid oedd eisiau tê na choffi i glirio fy mhen! Yr oedd yn brofiad mor rhyfeddol o hyfryd ac adfywiol fel y ceisiais ef drannoeth wedyn, gyda'r un canlyniadau ; ac felly y parhaodd am ugain mlynedd nes torri o'm hiechyd i lawr yn 1924. Yr oedd weithiau'n fwy ei rym, weithiau'n llai, rai prydiau'n fwy rhwydd, rai prydiau'n llai, ond fel rheol yn dwyn gwobr arbennig i ffydd a dyfalbarhad. Cedwid fi ambell waith ar fy ngliniau am awr, yn awr ac yn y man am oriau, a'r rheiny yn ddios oedd oriau euraid y dydd i mi, yn anhraethol fwy gwerthfawr ac angenrheidiol na brecwast. Ceisiwn yr eneiniad yn ddiffael cyn pregethu ; teimlwn mai ofer fyddai ceisio mynd ymlaen hebddo. Cawn ef mewn helaethrwydd pan fyddai angen. 'Rwy'n cofio siarad am wythnos mewn Convention yn y Rhondda gyda Dr. Pierson, Inwood, ac eraill, yna mynd i Gwmtwrch y Sadwrn, a phregethu yno deirgwaith y Sul a dwywaith dydd Llun, a chodi'n fore dydd Mawrth i ddal y trên ym Mrynaman am Lanelli, lle'r oedd Convention arall ddyddiau Mawrth a Mercher. Pan gyrhaeddais Lanelli, nid oedd Dr. Pierson, yr hwn y dibynnid yn bennaf arno, wedi dod. Yr oeddwn i'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ond yn meddu ar ddigon o ffydd i fynd i'm hystafell wely yn nhŷ fy chwaer-yng-nghyfraith, i ofyn am help oddi uchod, a'i gael, nid mewn ffrydiau, ond mewn afonydd, a barai i mi agos golli fy anadl a gofyn i Dduw atal Ei law. Yn ôl llaw, fodd bynnag, teimlwn
Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/57
Prawfddarllenwyd y dudalen hon