yn ddyn newydd llawn o hoen a hyder ysbrydol i fynd ymlaen â chwrdd y prynhawn. Unwaith yn unig y teimlais fy mod yn cael fy nghodi allan o'm hymwybod meidrol, "ai yn y corff ai allan o'r corff, ni wni: Duw a ŵyr." Yr oedd hyn wedi dychwelyd o Keswick yn 1905, pan oedd esgynlawr Keswick wedi ei goresgyn gan ddylanwadau'r diwygiad Cymreig, ac ar fy ffordd i bregethu yn Henllan (Penfro) gyda Mr. Towyn Jones. Yr oedd Towyn yn pregethu'n huawdl fel arfer, a minnau'n siarad "o'r frest." Ymhlith pethau eraill pregethais ar y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân, heb deimlo bod dim arddeliad ar y genadwri. Yr oeddwn yn dra siomedig, ac ni ddeellais fod dim wedi ei wneud am tuag ugain mlynedd, pan ddaeth dyn ymlaen ataf ar sgwâr Caerfyrddin, a oedd fel finnau'n disgwyl am y bus, a dweud yr hoffai glywed y bregeth ar bechod yn erbyn yr Ysbryd Glân a bregethais yn Henllan, eilwaith; iddi fod yn gyfrwng bendith iddo ef a llawer eraill, ac i'r oedfa agos dorri'n orfoledd. Nid oeddwn i'n gallu gosod cymaint o bwys ar "orfoledd" ag ef, ond gwelais fod yr Arglwydd yn gallu gweithio drwy'r pregethwr pan na fyddo ef yn brofiadol o hynny.
Dioddefaf oddi wrth ddiffyg cwsg o hyd dan amgylchiadau arbennig—yn neilltuol arferwn ddioddef pan fyddwn yn siarad ddwywaith neu dair y dydd am wythnos neu ragor mewn cenadaethau neu gynadleddau, ond byddai'r bedydd ysbrydol a gawn yn y bore yn ddiffael yn symud effeithiau anhunedda mwy, gan y gwnâi fi nid yn aniannol hoenus yn unig, ond yn ysbrydol hyderus yn ogystal. Hyd yn oed wedi i'm hiechyd dorri i lawr, yr wyf wedi cael fy adnewyddu dro ar ôl tro. Y mae un tro yn werth