Y mae'n eglur i'r darllenydd fod ochr anianegol amlwg i'r profiadau a gawn, ond cefais ras i beidio ag edrych ar yr ochr honno yn fwy o amcan nag o foddion—fel y mae perygl gwneud ar adegau o ddeffroad grymus. Gwyddwn fod yr amodau cyntaf a dyfnaf yn ysbrydol, a bod y gweithgarwch anianegol yn dibynnu ar gydymffurfiad â'r rheiny. Gwyddwn hefyd fod a fynnai eu hamcan â ffynonellau cymeriad yn hytrach na rhoddi i mi iasau nerfol diflannol. Diau fod eisiau'r bedyddiadau hyn yn nhiriogaeth y "doniau "fel "eneiniad i wasanaeth" ("unction for service") ac i loywi ac angerddoli cynheddfau canfyddiadol a deallol a'u galluogi i weld ac amgyffred "pethau na welodd llygad ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i galon dyn" anianol; ond yr oedd eu hangen yn bennaf ym myd y "grasusau " i weithredu " fel tân y toddydd a sebon y golchyddion " i lanhau y llygredd a llosgi'r sorod oedd yn fy natur. Barnai Jonathan Edwards ystad ei enaid wrth y breuddwydion a gaffai—cyn bod y term isymwybod wedi ei fathu, ac yna'n mynd at Dduw am ymwared oddi wrth ei "feiau cuddiedig." Yr oedd tarddellau y gweithgarwch y profwn i ei effeithiau yn yr un modd yn ddyfnach na'm hymwybod i, ond codent y diffygion a oedd yno i fyny a'u dangos mewn goleuni llachar iawn. "Pwy a ddeall ei gamweddau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig," meddai'r Salmydd. Yng Nghynhadledd Llanelli y cyfeiriwyd ati eisoes, pregethodd Dr. Pierson ar" ffrwythau'r Ysbryd " mewn ffordd a wnaeth i mi deimlo fy angen yn ddwys, a diau i'r argraffiadau suddo'n ddwfn i'm calon, gan mai o'u cylch hwy y bu gweithgarwch yr awr weddi foreol yn troi am amser. 'Rwy'n cofio gofyn i'r hen sant paham yr oeddwn i
Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/60
Prawfddarllenwyd y dudalen hon