Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi teimlo ddwysaf dan y bregeth honno, tra y tystiai eraill eu bod wedi teimlo fwyaf dan bregeth arall. "It was very likely what you needed, as the Holy Spirit knew," oedd ei ateb, a diau ei fod yn gywir. Yn yr un modd, yr oedd yr hyn a ddarllenwn yng nghofiannau'r saint yn fy marnu a'm condemnio, ac yn ddieithriad yn peri imi deimlo fy mychander ysbrydol. Angerddolid yr holl argraffiadau hyn yn fawr gan danbeidrwydd yr awr foreol. Buaswn yn dweud mai fy santeiddiad oedd yr amcan ynddynt, oni bai nad wyf yn eu cael mwyach, er bod y gwaith o'm perffeithio heb agos ei gwblhau. Pan gawn hwy fel "eneiniad i wasanaeth," yr oedd y wedd gondemniol yn llai amlwg, a llewyrch newydd yn disgyn ar y gwirioneddau y bwriadwn eu pregethu.

Ac nid yn unig yr oedd ochr anianegol ac ochr ysbrydol i'r profiadau hyn, ond yr oedd gwedd wrthrychol yn gystal â gwedd oddrychol i'r ysbrydol. Yr Ysbryd Glân a weithiai yn oddrychol ynof i loywi fy ngolygon a chynhyrchu'r awyrgylch cyfaddas i ganfyddiadau ysbrydol mewn ffordd isymwybodol nas deallwn i, ond y safon wrthrychol y'm bernid wrthi neu y'm hatynnid ati, yn fy ymwybod, oedd yr Iesu, neu ryw arwedd o'i gymeriad a'i berson. Dichon na ellir rhesymu o'r gwahaniaeth hyn mewn gweithrediad i athrawiaeth y Drindod, ond y mae'n sicr na ellir rhesymu yn erbyn hynny gan athronydd na diwinydd ar dir ystyriaethau damcaniaethol, haniaethol. Dim ond profiad diriaethol y saint sy'n gyfarwydd â dyfnion bethau Duw a fedr roddi inni'r praw terfynol

The rest may reason and welcome:
'Tis we musicians know.