Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VIII

(Gall y darllenydd a ddymuno ddilyn ffordd fy "Mhererindod" heb ymdroi, ddarllen y bennod hon yn olaf.)

ER nad fy amcan yw trefnu "troeon yr yrfa " mewn sistem ddeallol, y mae eglurder yn gofyn am roddi sylw—mwy nag a roddwyd—i berthynas rhai o'r prif droeon â'i gilydd efallai mai dyma'r man gorau i wneud hynny. Bydd y darllenydd effro, mi gredaf, am ateb i'r cwestiwn, beth yw'r gwahaniaeth rhwng y berthynas â Duw a ddisgrifir ym Mhennod IV, a'r un a ddisgrifir ym Mhennod VII. Pan oeddwn ar fedr ailadrodd sylwedd ysgrif o'r eiddof a ymddangosodd yn Yr Efrydydd flynyddoedd yn ôl ar y mater, syrthiodd fy llygad ar ysgrif gan yr Athro H. H. Farmer, yn The Christian World (Ionor 30, 1936) ar yr un pwnc; a chan ei bod yn fwy diriaethol na'r eiddof i, ac fel y cyfryw yn debyg o fod yn fwy o help i'r darllenydd cyffredin, a chan, hefyd, fod y mater o bwysigrwydd ymarferol yn gystal â damcaniaethol, rhoddaf gymaint o'i chynnwys ag sydd yn berthnasol yn y fan hon.

Testun yr ysgrif yw "Dau fath o Grefydd" ("Two kinds of Religion"). Y mae ganddo gyfaill, meddai ef, a synia am y Cyfanfod—yr hwn a eilw The Ultimate, am fod yr enw God yn awgrymu bod personol yn ormodol—fel egwyddor greadigol a draidd drwy bopeth, ac a'u ceidw gyda'i gilydd, y drwg a'r da, mewn sistem enfawr a threfnus y sydd eisoes, at ei