Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd, rywsut, o brydferthwch a gwerth anfeidrol. Pan yw dyn yn gallu sylweddoli ei le ynddi a'i chynghanedd ogoneddus, y mae yn grefyddol, a theimla ei holl fod yn cael ei ysbrydoli a'i ddyrchafu. Gall y fath sylweddoliad ddod drwy natur, llên, cerdd, sêr y nos, neu ymgyflwyniad i unrhyw achos uchel; ond pa bryd bynnag, ac ym mha ffordd bynnag y daw, ef yw calon a hanfod crefydd.

Ei feirniadaeth gyntaf ar y fath bantheistiaeth yw ei bod yn anwybyddu ffeithiau pechod a thrueni dyn, a dyfynna rannau o ddisgrifiad Walt Whitman o'r trueni hwn mamau tlawd a thenau yn cael eu hesgeuluso gan eu plant hyd yn oed, a marw'n ddiymgeledd a diobaith; dichell a brad yr adyn a huda enethod ifanc oddi ar y ffordd; erchyllterau rhyfel a phla a gorthrwm; tynged merthyron a charcharorion; y gwarth a'r dirmyg a deflir gan feilchion byd ar weithwyr a thlodion, a negroaid er enghraifft; a gofyn pa fath fydysawd i gynganeddu ag ef a'i addoli yw hwnnw a edy bethau fel hyn i fod."

Eithr â'r ail feirniadaeth y mae â fynnom ni yn awr, yr hon a'n dwg at drothwy'r bennod flaenorol (Pennod VII). "Yn wyneb anhrefn a gwyrdro ein bywyd moesol y mae sôn am berthynas o gytgord â'r bydysawd fel crefydd ddigonol fel pe treiem lanhau a phrydferthu siop esgyrn a charpiau drwy ei thaenellu â dwfr rhosynnau. Yn hytrach, yr un peth sydd arnom oll ei eisiau yw, nid ychydig mwy o ddyhead annelwig ac aneffeithiol tuag i fyny, ond rhyw allu gwahanol i ni ein hunain a dyrr i lawr i'n bywyd mewnol i lanhau ffynonellau yr hunandwyll a'r fyfiaeth sydd yno."