Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fiad o Grist a gefais ugain mlynedd yn ddiweddarach? Buasai'r tadau'n dweud fy mod wedi cyfeiliorni oddi wrth y ffydd wedi gwrthgilio—ac mai fy nwyn yn ôl a gefais o'm crwydriadau. Ond byddai diwinydd mwy eangfrydig yn esbonio bod arweddau o'r bydysawd heb eu datguddio i mi, a chynheddfau yn fy natur innau heb eu datblygu drwy eu dwyn i gyswllt bywydol â hwy, a bod eisiau fy nghadw dan ddisgyblaeth bellach i ddwyn hyn oddi amgylch. Ond a oedd eisiau disgyblaeth mor faith? Y mae yn beth tra sicr, er meithed yr amser rhyngddynt, fod y ddau brofiad yn perthyn i'w gilydd, am eu bod fel ei gilydd yn gysylltiedig â pherthynas bersonol â Christ. Yr wyf wedi sylwi eisoes i Bushnell fod am ugain mlynedd yn pregethu cyfiawnder y Deyrnas, ac yna iddo ddyfod i'r goleuni mwy yr hiraethai amdano fel cyflawniad o addewid y cyfnod cyntaf, heb unrhyw wrthgiliad oddi wrth wirionedd hwnnw. Y mae ymchwiliadau meddylegwyr diweddarach yn dangos nid yn unig fod graddau (stages) yn y bywyd ysbrydol, ond y gallant fod ymhell oddi wrth ei gilydd. Fe ddywaid Starbuck, er enghraifft, ar sail ei ymchwiliadau gofalus ef, os na chaiff y credadun "fedydd " yr Ysbryd Glân o fewn tri mis wedi credu yng Nghrist, y gall fod ugain mlynedd hebddo.

Cydnebydd y Testament Newydd raddau felly, epistolau Paul yn neilltuol. Yr oedd yr Effesiaid, er enghraifft, wedi derbyn "sêl" yr Ysbryd, neu "ernes" yr Ysbryd, ond gweddïa Paul ar eu rhan, ar iddynt gael eu cadarnhau mewn nerth drwy weithrediad dyfnach yr Ysbryd yn y dyn oddi mewn, fel y delai Crist i drigo drwy ffydd yn eu calonnau, ac iddynt hwythau, felly, gael eu "gwreiddio" a'u