"seilio" mewn cariad, h.y., i'w gwaelod hunanol gael ei gyfnewid a rhoddi iddynt brofiad o gariad Crist y sydd uwchlaw gwybodaeth y pen.
Eithr nid oes gyfeiriad at amser fel elfen i'w chyfrif o gwbl. Yn unig, gwyddom fod blynyddoedd wedi pasio rhwng ymweliad yr Apostol ag Effesus ac ysgrifennu'r epistol. Efallai nad yw'r ymddangosion ar wyneb amser o gymaint pwys pan yw gwaith y greadigaeth newydd yn mynd ymlaen yn y dwfn, neu ynteu o bwys yn unig fel mynegiadau i ddynion o gynnydd hwnnw. Byddai hyn yn gyson â'r hyn a ddywaid yr Athro William James, sef bod y bywyd ysbrydol ar ôl ei gychwyn yn tyfu'n isymwybodol, fel coral reef dan y dŵr, ac yna y daw y dydd pryd yr ymddengys uwchlaw arwynebedd y dŵr, h.y., pan gyfyd i'r ymwybod.
Yr hyn sydd yn sicr yw bod y cyfnod olaf yn gwblhad o'r blaenaf (er ei fod eto heb ei gwblhau), yn fwy uchel—wrthrychol am ei fod yn fwy dwfn—oddrychol ac ar yr un pryd yn fwy llydan ac amlochrog.
Yn un peth, dug y profiadau a ddisgrifiwyd yn y bennod flaenorol fi i sylweddoliad o'r Ysbryd Glân fel gallu diriaethol yn cynhyrchu effeithiau teimladwy (tangible) yn fy natur, a oedd yn wahanol nid yn unig i'r athrawiaeth amdano mewn llyfrau diwinyddol a phulpudau (pan gyfeirid ato o gwbl), ond hefyd i'r gwerthfawrogiad mwy profiadol a gawswn o Grist. Nid llawer o le a gaffai'r Ysbryd Glân yn anerchiadau Drummond—o leiaf, ei bwyslais cyson ar bresenoldeb personol Crist a wnaeth yr argraff dyfnaf arnaf i ac a arhosodd gyda mi drwy'r blynyddoedd dilynol—er nad, efallai, mor llywodraethol ag y dylasai fod. Yr wyf yn cofio bod dysgeidiaeth y pregethwyr a ddaeth