Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r dref oddi wrth Mr. Reader Harris, ynghylch angenrheidrwydd help yr Ysbryd, yn fy nharo'n newydd a dieithr. Y cwbl a wnaeth, serch hynny, oedd agor fy meddwl i bosibilrwydd profiad na feddwn i ar y pryd, a'm paratoi felly, i ryw fesur, ar ei gyfair pan ddaeth. "I ryw fesur" yn unig, gan fod yn fy meddwl y rhagfarn yn erbyn profiad o'r fath a gynhyrchir gan ymgyflwyniad cyson i astudiaeth haniaethol. 'Rwy'n cofio dweud mewn seiat ar y pryd bod Ysbryd Duw yn gyffredinol a chyson weithgar, yn annibynnol ar le am ei fod ym mhob lle, ac yn yr un modd uwchlaw amserau a phrydiau. Yr oedd hyn yn eithaf gwir, ond nid oedd yn un rheswm yn erbyn ei weithgarwch arbennig mewn lleoedd ac ar brydiau, a chaniatau ei fod yn allu personol. Fodd bynnag, fe'm ducpwyd i brofiad o allu felly nad oedd wedi ymddangos yn y cyfnod cyntaf, ac a oedd yn fwy diriaethol nag unrhyw werthfawrogiad o Grist a feddwn y pryd hwnnw, ac yn wahanol i unrhyw nerth ewyllys goddrychol y cefais i brofiad ohono. Ni allwn lai na theimlo fy mod mewn cyswllt ag order arall o nerthoedd; llanwyd yr ymadrodd "nerthoedd yr oes (byd) a ddaw" ag ystyr newydd imi, ac aeth y byd a'r bywyd ysbrydol lawer yn fwy rial ac agos.

Mewn cyswllt â hyn daeth perthynas fywydol organig Crist â'r credadun yn wirionedd byw i mi. Yr oedd hyn eto yn ychwanegiad pwysig at gynnwys y ffydd a nodweddai y cyfnod cyntaf, gan nad âi Drummond ymhellach na'n cymell i sylweddoli bod Crist wrth law "gyda ni" bob amser. Diau y gwyddai am y berthynas ddyfnach nad oeddem ni fyfyrwyr eto'n barod iddi. Nid yn y ffurf o athrawiaeth haniaethol, na chasgliad rhesymegol y cymerth y gwir-