Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ionedd ei le yn fy meddwl, ond fel canfyddiad neu fewn—welediad uniongyrchol. Yr oedd yn y Testament Newydd, bid siŵr, yn ysgrifeniadau Ioan a Paul yn arbennig, ond yn awr y cerddodd allan o lyfr i ddeffro fy ngwerthfawrogiad ohono. Gallaf fentro dweud ei fod ar ôl hyn yn fy mhrofiad, os yw sylweddoli peth yn fyw iawn yn ei wneuthur yn rhan o brofiad. Ond y mae'n dra sicr nad oedd yn eiddo imi i'r graddau y credwn ei fod ar y cyntaf, gan fy mod wrth y gwaith o geisio'i sylweddoli'n fwy o hyd. Ni allaf fynd ymhellach na thystiolaeth un o ddychweledigion y Parch. W. J. Smart yn ei lyfr Triumphs of His Grace: "I gave what I knew of myself to what I knew of Christ "—tystiolaeth sy'n awgrymu bod pethau ynom ni ein hunain na wyddem amdanynt pan gredasom yng Nghrist, ac uchterau ynddo Yntau yn gwneud gofynion pellach arnom nas datguddiwyd inni ar y pryd.

Yng nghyfnod fy athronyddu, nid wyf yn cofio i mi gael fy mlino gan "galon ddrwg anghrediniaeth yn ymado oddi wrth "Dduw Byw"—yr oedd hyd yn oed Green yn synied am Dduw fel "Hunan—ymwybyddiaeth dragwyddol" yn ei hatgynhyrchu ei hun mewn dyn. Ond yr oedd tuedd i bwysleisio'r ochr ddynol ym mhob gwybodaeth, a'i gwneuthur yn fwy o ddarganfyddiad na datguddiad, ac i gyfyngu Duw i weithgarwch cyffredinol yn neddfau Natur ac Ysbryd a'i amddifadu o allu i ddarostwng y deddfau hynny i amcanion neilltuol deallus a daionus, a gorchfygu amgylchiadau a rhwystrau—yr hyn a wna dyn hyd yn oed yn ei fyd ac a'i praw ei hun yn berson drwy wneud hynny. Daeth yr ochr yma i natur Duw, a aethai dan gwmwl, yn ôl i eglurder, a gwelais ei fod