Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddigon Byw o hyd i ddal awenau'r bydysawd a darostwng balchder dyn, ac yn ddigon Mawr i deimlo diddordeb mewn unigolion ac i'w hachub a'u harwain. Ar yr un pryd cefais olwg lawnach ar Ei gariad, ac ar Aberth Crist—eithr nid fy amcan yn awr yw ysgrifennu fy nghredo lawn, pe gallwn: credaf fod digon wedi ei ddweud i ddangos bod y cyfnod olaf, tra'n parhau ar linell y blaenaf, yn radd (stage) bellach ohono, ac fel y cyfryw yn fwy cyflawn a chyfoethog.