Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IX

PAN ddaeth diwygiad 1904—5, gwyddwn rywbeth, fel y dengys yr ysgrifau blaenorol, am nerthoedd ysbrydol fel pethau gwahanol o ran eu natur a'u heffeithiau i'r gwirioneddau deallol y bûm yn gyfarwydd â hwy; er hyn oll, pan ddechreuodd ei hanes ymddangos yn y papurau, ni wyddwn yn iawn beth i'w wneud ohono. Nid oeddwn yn gyfarwydd â hanes diwygiadau, hyd yn oed diwygiad 1859—60; yn unig clywswn gyfeiriadau ato, a rhai o'i nodweddion yn awr ac yn y man.

Fodd bynnag, teimlwn ddigon o ddiddordeb yn yr hanes a ddechreuodd ymddangos yn Nhachwedd, 1904, i'w ddarllen yn eiddgar, a'i ddarllen y peth cyntaf yn y papur dyddiol. Erbyn gwyliau Nadolig, 1904, yr oedd fy awydd i ddod o hyd i ryw egwyddor o unoliaeth yng nghymhlethrwydd yr hanesion a ymddangosai yn ddigon cryf i'm harwain i dreulio'r gwyliau i astudio'r mater, eithr nid drwy fynd i Forgannwg ar y cyntaf, ond i dawelwch Castellnewydd Emlyn; ac euthum o gylch llyfrgell y coleg y diwrnod cyn gadael i chwilio am lyfrau a'm helpai. Dywedais "chwilio ", er nad dyna'r gair iawn yn hollol, gan na wyddwn yn bendant am un llyfr a'm cynorthwyai. Ond yr oedd gennyf ryw fath o gred isymwybodol, er na wyddwn ddim am " arweiniad," yr arweinid fi rywsut at lyfr neu lyfrau o'r fath. Ac yn sicr, hynny a ddigwyddodd; o leiaf, gosodais fy llaw ar ddau lyfr a fu o help mawr i mi y pryd hwnnw, ac yn ôl llaw, sef Nature and the Supernatural gan Bushnell, a hen lyfr tua