Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â nerth argyhoeddiad i mi; ac ar yr un pryd yr egwyddor a arferwn bwysleisio wrth ddysgu Rhesymeg Gasgliadol (Inductive Logic) yn y dosbarth: "Facts first, theories then "—un o'r ychydig droeon y bu rhesymeg dechnegol o help ymarferol i mi. Credaf mai'r pryd hwn, ac yna ymlaen i'r diwygiad, y deuthum i weld pwysigrwydd yr egwyddor hon mewn perthynas â diwinyddiaeth yn arbennig, mewn perthynas, er enghraifft, â phersonoliaeth yr Ysbryd Glân, ail-enedigaeth, gallu gweddi, etc.; ac i weld hefyd fy mod i fy hun wedi bod yn euog o seilio fy nghred ar ddamcaniaeth haniaethol, ac " esbonio ymaith" ffeithiau na chydgordient â hi.

Felly, i fod yn gyson, gwelais y dylaswn wneuthur praw ac ymweld â'r mannau yr oedd y diwygiad yn ei rym ynddynt. Yn unol â hyn, pan oedd gennyf ymrwymiad yn Ebeneser, Abertawe, a deall bod y diwygwyr yn y Pentre (Rhondda) y Sadwrn, euthum i fyny yno erbyn oedfa'r prynhawn. Nid oedd Siloh'n agos llawn, na'r cyfarfod i fyny ag eraill y darllenaswn amdanynt mewn grym a hwyl. Y peth a wnaeth fwyaf o argraff arnaf oedd gwaith merch ieuanc heb nemor ddim llais—yr oedd hi wedi ei dwyn at Grist yn ystod y diwygiad, a'i thanio â sêl i ennill eraill nes dihysbyddu ei hadnoddau nerfol a'i llais yn adrodd yr emyn, "There is a fountain filled with blood," etc., gydag effeithiolrwydd a barai i mi edrych heibio ei ystyr llythrennol a oedd ac y sydd yn destun beirniadaeth" doethion y byd hwn," a minnau yn eu plith. Yr oedd Bethesda yn yr hwyr yn orlawn ymhell cyn amser dechrau, ac felly cychwynnais am Abertawe drwy gerdded i orsaf Treorci. Nid wyf yn cofio bod dim wedi ei ddweud yng