Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tua'r pryd hwn y galwyd fi i wasanaeth y diwygiad, neu, o leiaf, y rhoddwyd i mi gyfleusterau i fod o ryw wasanaeth. Dywedaf "galwyd " am na ddaeth i'm meddwl yn flaenorol y gallwn fod o un help yn yr amgylchiadau. Nid oeddwn yn bregethwr cyrddau mawr—dim ond tipyn o athro yn y pulpud fel yn y dosbarth; ond cefais fy ngwahodd i gyrddau i fyny ac i lawr y wlad a chyhoeddi'n bennaf, "Conviction is not conversion "—" "Nid yw argyhoeddiad yn droedigaeth "—ac ychwanegu "na deffroad chwaith eto yn argyhoeddiad." Bu'r datganiad hwn yn help i lawer, fel i mi fy hun yn flaenorol, ond yn fwy o help ymarferol iddynt hwy; oblegid yr oedd lluoedd o fechgyn a merched wedi bod ar frig ton o orfoledd am yn agos i flwyddyn, a phan oedd y gorfoledd yn pallu yn ceisio ei adfeddiannu yn gelfyddydol, heb deall bod yr Ysbryd Glân am fynd drwy'r dychymyg a'r emosiwn at y gydwybod i gynhyrchu argyhoeddiad, a thrwy'r gydwybod ar yr ewyllys i arwain i droedigaeth. Ymhlith mannau eraill, cofiaf yn dda am gyfarfod ym Mrynteg, Gorseinon, a anerchid gan y Parch. W. W. Lewis a minnau, a degau o bobl ieuainc ar yr oriel yn aros ar y diwedd i'w cyflwyno eu hunain i Grist, ac wedi eu cyflwyno eu hunain yn adfeddiannu'r llawenydd a gollasant, a mwy. Y maent yn aros hyd heddiw yn hardd a gwasanaethgar gydag achos eu Harglwydd.

Nid pawb, o gryn lawer, oedd yn barod i ufuddhau, a gwneud hunanfoddhad canu yn iswasanaethgar i ufudd-dod. Y canlyniad a fu iddynt golli hwyl canu ysbrydol maes o law. "A gymrwch chi lwmp arall o siwgr yn eich tê, Mr. Evans, i gael gweld a ellir melysu ychydig arnoch ?" meddai Mrs. Bowen, Peny-