groes, wrthyf un tro, pan oeddwn wedi bod yn pregethu ar " ffrwythau'r Ysbryd," a phwysleisio'r angen am ddwyn ffrwyth. Dynes ragorol oedd hi, ond ar y pryd yn mwynhau nofio mewn cariad a hedd." Dichon fy mod innau wedi bod yn annoeth, a thorri ar draws neu fynd yn erbyn llif llawenydd y cwrdd. Nid pawb oedd yn gwrthwynebu mewn dull mor gwrtais. Credaf mai'r tipyn gwasanaeth a ellais ei roddi ar y llinellau hyn oedd mewn golwg gan y Parch. Dyfnallt Owen pan ddywaid (yn llawlyfr yr Undeb yng Nghaerfyrddin): Galwyd ef yn bennaf i efengylu, a gwasanaethodd ei genedl yn arbennig trwy gyfeirio dylanwad diwygiad 1904—5 i diriogaeth y gwir fywyd ysbrydol."
Wedi i mi bregethu yng nghapel yr Annibynwyr yn Llandrindod ar y Sul cyn y Convention un flwyddyn, daeth boneddwr ymlaen ataf a gofyn, "A ydych chwi'n nabod rhywrai eraill yng Nghymru sy'n pregethu Crist, ac nid pregethu pregethau ?" Yr oedd y cwestiwn yn newydd a dieithr i mi, ond wedi gweld ei bwynt enwais nifer o'r cwmni a fu yn Keswick y flwyddyn honno.
Mr. W. P. Roberts, Llundain, oedd y gŵr hwn, un a dderbyniodd fendithion ysbrydol arbennig ei hun, ac a ddymunai ddangos ei ddiolchgarwch drwy ddefnyddio rhan o'i gyfoeth i'r amcan o arwain "plant y diwygiad" drwy Gymru i brofiad dyfnach o ras Duw, drwy drefnu conventions mewn trefi ac ardaloedd poblog, pe le bynnag y byddai drysau'n agor. Cynhaliwyd degau o'r cynadleddau hyn, a barhaent fel rheol am dri neu bedwar diwrnod, ambell waith am wythnos, yn Ne a Gogledd Cymru, a chafwyd tystiolaethau lawer i'r bendithion a dderbyniwyd