Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan bobl ymchwilgar a disgwylgar ynddynt. Bûm yn y rhan fwyaf ohonynt gyda phedwar arall (yn bennaf), sef y Parchn. W. W. Lewis, W. S. Jones, R. B. Jones, ac O. M. Owen. Ni wn paham y dewiswyd y rhai hyn yn hytrach nag eraill, ond gwelir eu bod yn cynrychioli'r tri enwad, ac yr oeddynt hefyd yn gyfarwydd â siarad yn y ddwy iaith, yr hyn oedd yn fantais os nad yn anghenraid. Nid oedd y gair team mewn bri yn grefyddol eto, ond yn sicr yr oeddem yn team" delfrydol ymron, os perffaith unoliaeth mewn amrywiaeth sy'n gwneud team. Yr oeddem oll mor llawn o'r un ysbryd, mor ufudd i'r un Meistr, ac ym mhob oedfa yn ceisio yr un amcan, a hwnnw'n amcan tu allan i ni ein hunain, fel y bu perffaith gytgord rhyngom yn ystod blynyddoedd y cynadleddau. Nid aem ag amser ein gilydd, ond os digwyddai bod arddeliad neilltuol ac amlwg ar genadwri un siaradwr, yr hyn a wnâi'r ail fyddai cymhwyso ei gwers neu ei gwersi mewn anerchiad byr a phwrpasol. Cyfnod "symlrwydd tuag at Grist" oedd y cyfnod hwnnw—yn ddiweddarach daeth cymhlethrwydd ffyndamentaliaeth i rwystro'r hen gydweithrediad er nad i ddinistrio'r hen gyfeillgarwch yn y dwfn.

Un o gynhyrchion eraill y diwygiad y bu i mi ryw berthynas ag ef oedd "Cerbyd yr Efengylydd," cerbyd a âi o gylch y wlad â chenhadwr ynddo i bregethu Crist yn yr awyr agored. Ai un o'r pump uchod, ac eraill yn eu tro, i helpu'r cenhadwr am tuag wythnos —weithiau am bythefnos, pan fyddai cynnydd y cynulleidfaoedd yn gofyn am hynny. Felly y bu, 'rwy'n cofio, yn Nhregaron: ni wyddai preswylwyr y conglau pellaf am y cerbyd ar y cyntaf, ond cyn diwedd yr wythnos aeth y sôn i'r bryniau, fel gynt