"dros fryniau Dewi," fel ag i ddwyn cymanfa at ei gilydd erbyn nos Sul, a gofyn i'r cerbyd aros wythnos yn hwy. Un noson a fwriadem ei rhoddi i Aberarth ar ein ffordd i Aberaeron, ond bu raid inni aros dros nos Wener; a'r nos honno—noson braf yn naturiol ac ysbrydol—wedi diweddu'r oedfa, yr oedd fel pe buasai to anweledig wedi dod i'n cysgodi, ac ni fynnai'r bobl ymadael, fel y bu raid inni gael seiat—seiat a agorwyd gan hen wraig 80 oed o Lannon, a ddaethai at Grist yn niwygiad 1859—60.
Ni chaem un tâl drwy gynhadledd na cherbyd, ond llety a bwyd—a thâl y Tad mewn llawenydd a thangnefedd na all aur ac arian eu prynu.
Aeth y llanw â mi i ffwrdd oddi wrth gysylltiadau coleg ac eglwys o leiaf, yr oedd fy eglwys yn caniatáu i mi lawer iawn o ryddid ar yr amod fy mod yn rhoi cyfran o'm gwasanaeth iddi hi. Nid oedd ball ar bregethau ar gyfer oedfaeon a chenadaethau; diflannodd ofn "gwywdra meddyliol" fel lledrith nos. Yr oedd y pregethau o leiaf yn fyw—yn tyfu fel planhigion byw yn hytrach na chael eu hadeiladu fel tai neu eu gwneuthur fel byrddau. Mynnai rhai o'm cyfeillion, Rhys J. Huws yn arbennig iawn, i mi eu cyhoeddi, ond er i mi gael cynnig da gan firm adnabyddus, ni wneuthum. Drwg gennyf hynny yn awr, gan eu bod wedi mynd o'm cof, o ran eu manylion, ag eithrio dwy neu dair.
Y mae digon wedi ei ddweud i ddangos bod llwybr fy mhererindod yn ystod y blynyddoedd ar ôl y diwygiad yn mynd â mi drwy leoedd hyfryd iawn, ar ben y bryniau yn aml, ac yna i borfeydd gleision ar lan dyfroedd tawel.