X (a)
DYWEDAIS yn y bennod ddiwethaf na allwn fesur na dyfalu maint yr effaith a gafodd dylanwadau grasol y diwygiad arnaf, ond gallwn fod yn sicr bod gwasanaeth, i'r graddau y mae yn bur ei amcan, yn adweithio'n ddaionus ar y cymeriad. Y prif rwystr a deif gwaith cyhoeddus cyson yn ffordd dyfnhad y bywyd ysbrydol yw ei fod yn cwtogi oriau myfyrdod a gweddi. Ni bûm yn euog, fodd bynnag, o adael iddo ymyrryd â'r olaf, gan ei fod mor angenrheidiol i'r gwaith â bwyd a diod i'r corff, ac nid oeddwn mor ddiwyd fel ag i fod yn esgeulus chwaith o'r blaenaf.
Ni wn i ba raddau y mae gweinidogion yr Efengyl yn gweithio ar ddwy lefel grefyddol, ond bûm i'n gorfod gwneud hynny wedi i lanw mawr y diwygiad dreio, am y cawn fy arwain i diriogaethau nad oedd "plant y diwygiad" yn gyffredin, gartref yn gystal ag oddi cartref, yn mynd nac am fynd i mewn iddynt. Gadawodd cwrs fy mhererindod ei ôl ar silffoedd fy llyfrgell aeth hon, yn raddol, fel mi fy hun, yn fwy ysbrydol (yn yr ystyr gyfyng) ei nodwedd, a bu raid i lyfrau ar athroniaeth a'r cyffelyb gilio naill ochr, a rhoddi eu lle i lyfrau ar ochr brofiadol y bywyd Cristnogol (yn fwy nag ar ei ochr ddamcaniaethol).
Dug y diwygiad, ar ei donnau cyntaf ymron, lu o lyfrau a llyfrynnau i'r wlad, a dug i sylw eraill a fu'n boblogaidd yn amser y tadau, ond nad oeddent yn adnabyddus i ni—y mwyafrif mawr yn ymwneud â bywyd yr ysbryd. Ymhlith y rhai mwyaf poblog-