aidd yr oedd llyfryn J. Macneil (Awstralia) ar The Spirit—filled Life; Quiet Talks on Power S. D. Gordon; llyfr bychan ar yr Ysbryd Glân, gan A. J. Gordon, a gymeradwyid yn neilltuol gan Dr. Pierson; The Baptism of the Holy Ghost gan Asa Mahan, etc. Ymddangosodd llyfr Dr. Horton, The Open Secret, yn 1904, a bu hwnnw'n foddion i arwain llawer ohonom at Imitatio Christi Thomas a Kempis, Llythyrau Samuel Rutherford, Holy Living and Holy Dying Heremy Taylor, a Serious Call William Law. Drwy ryw fodd neu'i gilydd daeth hanes bywyd Madam Guyon i mewn i gylch Caerfyrddin, ac aeth hwn â ni i mewn i gysegrfeydd dieithr iawn, a dangos inni fod i'r bywyd newydd yng Nghrist rai aros-fannau hyd yn oed ar y llawr. Drwy'r cofiant hwn gan Dr. Upham, arweiniwyd fi i ddarllen gweithiau eraill yr awdur ar Divine Union, The Life of Faith, etc., y rhai sy'n ymdrin â'r egwyddorion a oedd yn weithgar ym mhrofiad Madam Guyon. I gadw cydbwysedd rhwng yr ochr ddwyfol a'r ochr ddynol i brofiad Cristnogol diledryw, bu pregethau Bushnell, yn neilltuol ei Sermons for the New Life a Christ and His Salvation, ac yna lyfrau Dale ar yr Effesiaid a'i The Living Christ and the Four Gospels o help mawr.
Amhosibl yn absenoldeb cofnodion fyddai treio olrhain llwybr fy mhererindod yn y gweadwaith o lenyddiaeth sydd wedi ymffurfio o gylch y bywyd ysbrydol, y naill lyfr yn arwain at arall, a thrwy hwnnw at eraill, heb ball. Eto, y mae'n amlwg mai ffordd fer sydd oddi wrth Madam Guyon at Santa Teresa, y ddwy Gatrin (o Sienna a Genoa), St. Ioan y Groes, ac eraill. Yr oedd i mi swyn mawr yn hanes a gweithiau y rhain, am, efallai, y teimlwn fy mod