Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/83

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn eu dilyn o bell, ac o leiaf yn gallu gwerthfawrogi yr hyn a ddywedent, a chael budd yn gystal a mwynhad ynddo. Yn ddiweddarach, yr wyf wedi darllen beirniadaethau condemniol arnynt, gan ddiwinyddion yn bennaf, o Ritschl hyd Barth, ond beirniadaethau sydd i'm tyb i yn dangos nad ydynt yn eu deall, ac yn cyfrif y diffyg yn eu profiad eu hunain yn braw o ddiffyg ym mhrofiad y cyfrinwyr. Credaf fod Deissmann, yn ei lyfr The Religion of Jesus and the Faith of Paul (tud. 196 ff.) yn gosod ei fys ar y geudeb y maent yn euog ohono.

Er hyn oll, y mae tuedd mewn darllen hanes y cyfrinwyr pennaf, a hyd yn oed eu hymdriniadau â chyfrinion y bywyd ysbrydol, i ennyn y dychymyg ar draul esgeuluso amodau moesol y profiadau a ddisgrifir, fel yr oedd perygl i Paul gael ei dra-dyrchafu gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau a gafodd ef (bid siŵr, nid rhai ail-law oedd yr eiddo ef). Lleihawyd y perygl hwn i mi drwy i un o lyfrwerthwyr Caerfyrddin brynu llyfrgell Canon Jenkins, Llangoedmor, a oedd yn Rhydychen yn amser Newman ac a ddaeth dan ei ddylanwad. Ymhlith ei lyfrau yr oedd nifer o'r rhai a gyhoeddwyd ynglŷn â'r mudiad hwnnw yn ymdrin ag ochr erwin (austere) y bywyd ysbrydol, megis Yr Ornest Ysbrydol gan Scupoli, Ymarferiadau Ysbrydol Loyola, Perffeithrwydd Ysbrydol Rodriguez, ac amryw o weithiau Pêre Grou. Cefais ras i ddechrau darllen y llyfrau hyn, a blas cynyddol wrth ddarllen ymlaen a cheisio byw i fyny â hwy. Darllenais ddwy gyfrol Rodriguez yn ofalus, ac yr oedd eu gafael arnaf mor fawr, a'r argraff a roddent o rialiti bywyd ysbrydol a phwysigrwydd ufudddod mor effeithiol, fel na chawn flas mwyach ar y