Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llyfrau deallol cyffredinol, damcaniaethol, a gyhoeddid gan gwmnïau James Clarke, Hodder & Stoughton, a'r cyffelyb; yr oedd darllen y rheiny fel yfed maidd ar ôl medd, neu ddod i lawr i awyr dawchlawn y cwm o ganol ozone y bryniau.

Darllenais droeon fod mynychu cyfarfodydd pregethu (conventions, etc.,), ac ymateb yn deimladol i'r gwirioneddau a bregethir, heb fod hyn yn arwain i weithgarwch ewyllys, yn cynhyrchu ysbrydolrwydd gwagsaw a dibennu mewn hunan-foddhad (self-indulgence) diffrwyth. Ond ni chredaf fod y llyfrau uchod yn rhoddi un math o gyfleustra i hunanfoddhad felly rhydd eu darllen symbyliad i ymdrech ewyllys newydd neu ynteu i'w taflu o'r neilltu fel pethau anymarferol. Y blaenaf fu eu heffaith arnaf i, ac yr oedd yr awr fore euraid yn peri i'w dysgeidiaeth fynd yn rhan o'm his-ymwybod a phuro ffynonellau cymeriad.

Yn ddiweddarach (tua 1912) y deuthum i gyffyrddiad â gweithiau y Barwn Von Hugel; ond er godidoced ei ymdriniadau â phynciau byd yr ysbryd a'i gynefindra ag ymdriniadau eraill, credaf iddo wneud y gwasanaeth pennaf i mi drwy fy nghyfeirio at rai a oedd yn wŷr cyfarwydd (experts) ym myd profiad yn hytrach nag ym myd damcaniaeth, megis y Curé d'Ars, a'r Abbé Huvelin. Yn y modd hwn rhoddodd help llaw i mi i symud ymlaen yn fwy hyderus i gyfnod arall yn fy addysg ysbrydol a gaiff ein sylw yn ôl llaw (Pennod XII).