Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

b

Ar ôl eneinio i bregethu'r Efengyl yn 1904, pylodd y diddordeb o ddysgu damcaniaethau am Grist i fyfyrwyr yn ymyl y diddordeb o ddysgu Crist i bobl ifainc ail-anedig. Arhosodd y canfyddiad a gefais yn Hawen gyda mi, sef mai gwaith yr Eglwys yn llaw Duw yw gwneud dynion, ond gwelais bosibilrwydd dyndod yng Nghrist a rhagoroldeb "ffrwyth yr Ysbryd yn fwy clir a llawn. Cafodd pobl ifainc y Priordy-fel miloedd eraill-fedydd ysbrydol amlwg, a chredais fod yr Ysbryd Glân am ffurfio Eglwys ysbrydol, gynwysedig o aelodau ail-anedig, ar linellau'r Eglwys Fore. Buont yn frwdfrydig a ffyddlon am gryn amser, ac ymddangosent fel yn ymddatblygu mewn ffydd a chadernid yn gystal ag mewn cariad a graslonrwydd. Cawsom lawer o fudd a mwynhad wrth fynd gyda'i gilydd drwy lyfrau megis Y Serchiadau Crefyddol (The Religious Affections) Jonathan Edwards. Yn neilltuol, yr oedd y cwrdd gweddi a'i awyrgylch ysbrydol yn gystal â'r Ysgol Sul yn parhau'n atyniadol. Cof gennyf gwrdd â dau fyfyriwr o Gaerfyrddin yn Keswick, a chael y dystiolaeth ganddynt, "Nid oes eisiau dod i Keswick am awyrgylch ysbrydol o gwrdd gweddi'r Priordy." Arhosodd y delfryd o Eglwys ysbrydol gyda mi am rai blynyddoedd, ond y mae llif amgylchiadau, y rhyfel mawr, ysbryd yr oes, a daearoldeb cynhenid dyn wedi chwalu fy ngobeithion mewn perthynas â'r Eglwys leol, ond nid mewn perthynas â'r Eglwys fawr yn y nef ac ar y llawr." Aeth rhai oddi wrthym i leoedd eraill, a llawenydd yw clywed eu bod yn ganolbwyntiau o ddylanwad ysbrydol yn eu cylchoedd. Ond oerodd cariad llawer, a chyda galar rhaid i mi fynegi