Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fy marn mai ychydig yw nifer y rhai sy'n estyn eu gwraidd wrth yr afon, a gorchfygu blynyddoedd sychder ac anffrwythlonrwydd felly, yn lle dibynnu ar gawod o law yn awr ac yn y man, er gwerthfawroced honno.

Diau fod llawer o'r bai yn gorwedd wrth fy nrws i, er na wn beth yw. Gwn fy mod yn analluog i gasglu pobl anianol at ei gilydd, a'u galw yn eglwys. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl oherwydd yr anallu hwn, y sydd i'm tyb i yn ochr arall canfyddiad o ystyr a gwerth Eglwys y Duw byw. Yn sicr, arwydd o ddirywiad marwol a chwarae i ddwylo cnawd a byd yw ein bod yn gwneuthur cadw rhif yr aelodau i fyny yn brif safon llwyddiant crefyddol. Beth a ddywedid am arddwr a gyfeiriai at gyflawnder o chwyn yn ei ardd fel praw o fedr garddwrol? Bid siŵr, bydd efrau o hyd yn gymysg â'r gwenith, ond peth arall yw cyfrif hynny'n ystad foddhaol, neu yn safon llwyddiant. Yn ôl Luc xiv, 25 ff., yr hyn a ddylai ein blino ymlaenaf yw nid bod mwyafrif y bobl y tu allan i'r Eglwys, ond bod mwyafrif y rhai sydd i mewn yn ddieithr i fywyd Duw. Yn wir, euthum i Rydychen i gyfarfodydd y Grŵp yn 1933, nid yn unig oblegid bod eu golygiad ynghylch yr angen am berthynas bersonol â Christ, yn hytrach na chydsyniad ag athrawiaeth amdano, yn apelio ataf, ond i geisio darganfod a oedd ganddynt ryw allu, neu gyswllt â gallu, na feddwn i arno, i helpu bechgyn a merched anianol i "droi " mewn gwirionedd. Yr unig beth a ddysgais oedd bod Ysbryd Duw'n gallu grymuso ewyllys y sawl sydd o ddifrif heb help emosiwn brwd; yn wir, bod emosiwn yn rhwystr i'r graddau y caiff ei ffordd i fod yn feistr yn hytrach nag yn was.